| Eich cyswllt yn y rhanbarth |
| Mike Lynham |

|
| Ffôn: 01925 515200 |
| Symudol: 07795 505350 |
| Ebost: [email protected] |
Click here for an English version of this page
Proffil
Mae’r rhanbarth yn cael ei ddominyddu gan glystyrau o ddiwydiannau niwclear a chemegol. Mae sawl safle niwclear pwysig yn y rhanbarth orllewinol yn Cumbria ac o gwmpas Warrington (Sellafield yn Cumbria ac atomfeydd yn Heysham a Capenhurst ger Caer). Mae’r sector polymer yn amlwg ledled y rhanbarth.
Gweler hefyd:
LMI
Tueddiadau Sgiliau
Mae sawl mater sylfaenol sy’n gyffredin i’r diwydiannau yn y rhanbarth. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Yr angen am reolwyr, ymchwilwyr, peirianwyr a thechnegwyr medrus iawn ynghyd â gweithredwyr proses, gyrwyr a staff gwerthu.
• Gweithluoedd sy’n heneiddio.
• Anhawster i recriwtio staff profiadol gyda’r sgiliau priodol.
• Delwedd a phroffil gwael y diwydiannau.
• Effaith gynyddol deddfwriaeth.
• Canolbwyntio ar effaith amgylcheddol y diwydiannau.
• Cyflymder y newidiadau technolegol.
• Cystadleuaeth, yn enwedig yn erbyn cwmnïau tramor.
• Potensial i ddatblygu marchnadoedd byd-eang ar gyfer y cynnyrch terfynol.
• Gofynion Sicrhau Cymhwysedd.
Gweithgareddau Cogent
Mae Cogent yn gweithio gyda chyflogwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid allweddol eraill fel Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol, Cynghorau Sgiliau a Dysgu Lleol ELWa a’r Adran Masnach a Diwydiant i nodi a mynd i’r afael â gofynion datblygu’r gweithlu yn y rhanbarth.
Mae Cogent hefyd yn darparu arweiniad a chymorth i ychwanegu gwerth drwy, er enghraifft, ddatblygu neu ddarparu cymwysterau neu fframweithiau dysgu priodol.
Mae Cogent wedi datblygu cysylltiadau cryf â rhwydwaith Sefydliadau Hyfforddi’r Diwydiant Cemegol (CITO) a sefydliadau diwydiant cemegol eraill fel Canolfan y Diwydiannau Prosesu (CPI) ac mae’n weithgar iawn ar sawl fforwm diwydiant.
Mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr unigol yn y rhanbarth i sicrhau bod sgiliau’n cael eu datblygu sy’n cyfateb i faterion penodol sy’n effeithio ar eu cwmnïau a’u helpu i gael gafael ar gyllid ar gyfer mentrau o’r fath.